Gwasanaethau i Fusnes
Ymchwil ar y Cyd
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn golygu creu partneriaeth rhwng eich busnes a Phrifysgol, gan eich galluogi i gael mynediad at sgiliau ac arbenigedd er mwyn helpu eich cwmni i ddatblygu.
Mae’r bartneriaeth hefyd yn golygu y bydd un neu fwy o raddedigion yn helpu i hwyluso’r trosglwyddiad gwybodaeth hwn. Bydd y person graddedig yn gweithio o fewn eich cwmni ar broject sy’n greiddiol i’ch anghenion chi, ac fe gaiff ei arolygu ar y cyd gan bersonél y cwmni ac aelod academaidd o’r Brifysgol sy’n rhan o’r fenter.
Mae gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor dros 20 mlynedd o brofiad o redeg projectau KTP. Bangor yw un o’r ychydig sefydliadau sydd wedi derbyn tair gwobr o bwys gan Lywodraeth y DU yn gydnabyddiaeth am ei gwaith ac wedi darparu yn llwyddiannus dros 100 KTP.
Beth yw’r manteision ar gyfer cwmnïau sy’n cymryd rhan?
Mae allbynnau perfformiad busnes yn amrywio o achos i achos, ond mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd i law yn
dynodi y gall busnes ddisgwyl:
- Cynnydd o dros £220,000 mewn elw blynyddol cyn treth
- Creu tair swydd newydd go iawn
- Cynyddu sgiliau’r staff presennol
Sut fath o sefydliadau all gymryd rhan?
Gall busnesau o unrhyw faint ac o unrhyw sector gymryd rhan mewn project KTP, gan gynnwys y sector ‘dim am, elw’
a sefydliadau yn y sector gyhoeddus. Hyd yma, mae Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth wedi ymwneud â phrojectau
yn y meysydd canlynol: Datblygiad TG (datblygu meddalwedd, gwefan systemau), Cemeg (prosesau cemegol, fferyllol
a chynhyrchu), Datblygu Busnes a Marchnata, Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth, a llu o ddisgyblaethau eraill.
Lawrlwythwch y wybodaeth yma fel PDF
Gofyn am becyn o'r holl gyfleoedd cyfredol
Prifysgol Aberystwyth Christopher Heidt Rheolwr Contractau a Gweithrediadau E: servicestobusiness@aber.ac.uk 01970 622385 |
Prifysgol Bangor Tudur Williams Rheolwr Datblygu Busnes E: servicestobusiness@bangor.ac.uk 01248 388492 |
0800 032 5533