Teithio'r Byd
Y rhaglen sy'n cael yr effaith ehangaf ar hyn o bryd yw ein rhaglen Teithio'r Byd, a gynhelir bob yn ail blwyddyn. Dros gyfnod o ddau fis mae gweithwyr yn cofnodi ar wefan y pellterau y maent yn eu teithio drwy gerdded, nofio, rhedeg neu feicio.
Mae cerrig milltir ar hyd y ffordd yn eich helpu i gyfrifo pa mor bell rydych wedi ei deithio o amgylch y byd drwy feicio, nofio a cherdded.
Yna mae'r wefan yn adio'r gweithgareddau hyn at ei gilydd ac yn dangos hynt rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun o amgylch arfordir Cymru, gyda chyfranogwyr yn dechrau a gorffen yn eu sefydliadau cartref.
I'r rhai sydd â diddordeb mwy cystadleuol yn y mater, mae'r wefan wedyn yn llunio cynghrair i unigolion a'u hadrannau, a hefyd yn cymharu cynnydd y ddwy brifysgol yn erbyn y llall. Gall unrhyw aelod staff ymuno â'r rhaglen a gellir mynd at y gwefannau drwy'r lincs isod: