Deilliannau a'r pecyn cymorth
Mae'r project wedi cyflwyno newid yn effeithiol yng nghynllun y peilot ac wedi arwain at fuddion ychwanegol i'r diwylliant a'r cyfathrebu rhwng y ddwy brifysgol ac o fewn y timau lleol. Canolbwyntiodd peilot y project ar weithredu'r broses a'r arferion sy’n gysylltiedig â choladu a rheoli rhestri darllen gyda'r prifysgolion ac mae eisoes wedi dangos gwelliant sylweddol o gymharu â pherfformiad blaenorol. Mae'r project P3 wedi galluogi newid ac arwain at sefydlu prosesau effeithiol ac mae'r cynlluniau gweithredu yn y ddwy brifysgol ar amser i gwblhau 90% o'u targedau rhestri darllen ar gyfer 2016. Roedd yn amhosibl cyflawni'r targed hwn yn y gorffennol.
Mae’r project wedi cyflwyno:
- dull mwy cryno o weithredu'r fethodoleg TPD a rheoli newid
- model graddedig sydd ar y blaen ar ddulliau rheoli newid presennol a phecyn cymorth i gefnogi defnyddio dull gweithredu newydd
- wedi dangos effaith wrth weithredu technolegau newydd i restri darllen a sefydlwyd ar y cyd gan y prifysgolion.
- Timau eraill yn y prifysgolion yn dangos diddordeb ehangach a’i fabwysiadu wrth iddynt geisio cyflawni newid.