Cynhadledd ar Wasanaethau Cydweithredol ac a Rennir “Rheoli Newid”
Ar 25 Mawrth 2015 fe gynhaliodd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor gynhadledd undydd ar Wasanaethau Cydweithredol ac a Rennir.
Thema'r ail gynhadledd flynyddol hon oedd "Rheoli Newid" ac edrychodd ar weithgareddau presennol a methodolegau i gefnogi ein hymdrechion yn yr amgylchedd sy'n newid.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i wneud y canlynol:
- Rhannu gwybodaeth am y gweithgareddau cydweithio a rhannu gwasanaethau sydd eisoes yn digwydd
- Rhoi gwybodaeth ac atgoffa pobl am yr agenda gwasanaethau cydweithredol ac a rennir ar draws y DU
- Ysgogi ystyriaeth bellach o Wasanaethau Cydweithredol ac a Rennir fel opsiwn
- Creu fforwm i gyflwyno timau gwasanaeth o'r ddwy brifysgol i'w gilydd.
- Cynnig cyflwyniad i fethodolegau allweddol sy'n berthnasol i reoli newid.
Daeth dros 60 o gynadleddwyr i'r gynhadledd o wahanol dimau gwasanaeth a chefnogi yn y ddwy brifysgol.
Gellir mynd at gyflwyniadau a recordiadau o'r diwrnod drwy'r cysylltiadau yn y tabl isod.
Teitl y Sesiwn |
Cyflwyniad ar gael |
Recordiad ar gael |
Y Gynghrair Strategol – Y Diweddaraf |
Cliciwch yma |
|
Newidiadau mewn Addysg Uwch: Huw Morris, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Adran Addysg a Sgiliau (AdAS), Llywodraeth Cymru |
Cliciwch yma |
|
Dosbarth Feistr - Rheoli Newid yn Effeithiol ac yn Effeithlon
|
Cliciwch yma |
|
P3 = Pobl, Proses, Perfformiad
|
Cliciwch yma |
|
Agenda’r Gynghrair Strategol mewn Gwasanaethau a Rennir |
|
|
Canlyniadau Gweithdy | Cliciwch yma |