Canolfan ar gyfer Deunyddiau a Dyfeisiadau Swyddogaethol Uwch

Datblygwyd y Ganolfan ar gyfer Deunyddiau a Dyfeisiadau Swyddogaethol Uwch i gyd-drefnu ac ymgymryd ag ymchwil i ddulliau newydd o ddatblygu, nodweddu a defnyddio nano-ddeunyddiau a macro-ddeunyddiau mewn cysylltiad â thechnegau modelu a delweddu cyfrifiadurol. Bydd y Ganolfan yn rhoi sylw i flaenoriaethau strategaeth 'Cymru'n Ennill' Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu economaidd drwy gysylltu'n rheolaidd ac yn drwyadl â'r gymuned fusnes, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Bydd y ganolfan hon yn adeiladu ar wybodaeth arbenigol yn Aberystwyth a Bangor, gan gynnwys penodi tri Athro newydd.
Amcanion Strategol
- Datblygu rhaglenni ymchwil sy'n gystadleuol yn rhyngwladol ac sy'n canolbwyntio ar electroneg organig, ffotoneg, deunyddiau dan amgylchiadau eithafol, gwyddor y gofod, biotechnoleg a synwyryddion
- Ategu rhaglenni arbrofol gyda dulliau nodweddu blaengar, yn y labordy ac mewn adnoddau canolog
- Datblygu rhwydwaith rhyngwladol o ymchwilwyr a budd-ddeiliaid allanol (ym myd diwydiant yn arbennig) i annog ac ategu'r rhaglen ymchwil hon
- Datblygu rhaglen effeithiol i rannu gwybodaeth i sicrhau bod gwybodaeth y llifo'n dda rhwng y canolfannau ymchwil, yr economi a'r gymdeithas