Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cefnogaeth Ymchwil a Menter

Un o brif amcanion y Bartneriaeth yw datblygu ffyrdd arloesol o gefnogi, rheoli a datblygu rhaglenni ymchwil; o lwyddo i ennill grantiau a mathau eraill o nawdd drwy gyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr academaidd a diwydiannol, fel y gall cwmnïau a'r gymdeithas yn fwy cyff redinol elwa ar y wybodaeth honno. Mae cydweithrediad rhwng y bobl broffesiynol sy'n gyfrifol am y gweithgareddau hyn yn PCA a PCB wedi ei sefydlu ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi ceisiadau am grantiau ymchwil a gweithgareddau i gyfnewid gwybodaeth. Mae galluoedd a gwybodaeth arbenigol yn cael eu rhannu er mwyn rhoi sylw i'r blaenoriaethau a amlinellir yn strategaeth 'Cymru'n Ennill' Llywodraeth Cynulliad Cymru:

  1. Hwyluso cysylltiadau cryf rhwng busnesau a'n sefydliadau addysgol ar ystod eang o bethau gan gynnwys recriwtio, hyfforddi, datblygu rheolaeth, rhwydweithio rhyngwladol a throsglwyddo technoleg
  2. Hwyluso gwaith i elwa yn llwyddiannus ar syniadau newydd da, o ble bynnag y maent yn tarddu

Amcanion Strategol

  1. Datblygu galluoedd datblygu busnes a all farchnata'n egnïol arbenigedd ymchwil y ddau sefydliad yng Nghymru ac yn rhyngwladol
  2. Hybu'r rheolaeth ar eiddo deallusol y sefydliadau
  3. Cynyddu'n sylweddol yr incwm ar gyfer ymchwil oddi wrth y cynghorau ymchwil a chyrff ariannu cyhoeddus eraill y DU, yr Undeb Ewropeaidd a diwydiant
  4. Datblygu'r ymarfer gorau, ar y cyd, o ran cysylltiadau busnes, masnacheiddio a throsglwyddo technoleg drwy rannu a gwella gwybodaeth, sgiliau a phrosesau.
  5. Hyrwyddo gweithgareddau trydedd cenhadaeth economaidd ac eff eithiol, gan gynnwys:
    • Hyrwyddo diwylliant o fenter a mentergarwch ymhlith staff a myfyrwyr
    • Darparu gwasanaethau ar gyfer busnes megis hyff orddi, Datblygiad Personol Parhaol a gweithgareddau rhannu gwybodaeth
    • Ymrwymiad i weithgareddau, partneriaethau a rhaglenni datblygu economaidd rhanbarthol
    • Datblygu rhwydweithiau o gyn-fyfyrwyr sy'n canolbwyntio'n benodol ar gysylltiadau â gweithgareddau economaidd berthnasol y prifysgolion

Site footer