Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Croeso i dudalennau we ar gyfer y Cynghrair Strategol Aberystwyth a Bangor

Cyhoeddodd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor Gynghrair Strategol newydd ar ddydd Mercher 7 Rhagfyr 2011 a oedd yn dynodi cam newydd yn y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad.

 

Mae'r gynghrair yn adeiladu ar hanes o gydweithio rhwng y ddwy Brifysgol ac yn fwyaf diweddar ar y Bartneriaeth Ymchwil a Menter lwyddiannus gwerth £10.9m, a gyllidwyd gan HEFCW ac a sefydlwyd gan y ddwy brifysgol yn 2006.

Mae'r Prifysgolion yn cydweithio ar hyd ystod eang o'u gweithgaredd ac wedi sefydlu strwythur llywodraethu i oruchwylio datblygiad, trosglwyddiad a thwf y Gynghrair. Mae'r tudalennau hyn yn ymwneud â rhai o'r gweithgareddau rydym yn eu dilyn ond ddim y cyfan ohonynt. Mae projectau ar y cyd yn cael eu datblygu, rhai ohonynt yn brojectau sy'n rhedeg i filiynau o bunnoedd o wariant, hyd at unigolion sy'n archwilio'r potensial o rannu polisi, tasg neu ddatblygiad cwestiwn ymchwil; gwelir y cyfan ohonynt fel agweddau pwysig o'r cydweithio rhwng y ddwy Brifysgol.

Mae'r Gynghrair Strategol eisoes yn dechrau lledaenu a dyfnhau'r bartneriaeth rhwng y ddwy brifysgol drwy'r strategaethau ar y cyd mewn Dysgu ac Addysgu, Arloesi ac Ymwneud, Ehangu Mynediad a gwahanol brosesau cynllunio rhanbarthol.

Mae'r tudalennau hyn yn cael eu hadolygu a'u hailddatblygu i ddangos amrediad llawn y gweithgareddau a buaswn yn eich annog chi i gymryd golwg arnynt o bryd i'w gilydd i weld sut y maent yn datblygu.

 

Chris Drew, Dirprwy Bennaeth Swyddfa'r Strategol


Site footer