Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Datganiad i’r Wasg

18 Rhagfyr 2014
Embargo: 00.01 18 Rhagfyr 2014

Llwyddiant REF i Gynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor

 Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn dathlu eu llwyddiannau cyfunol yn dilyn cyhoeddi canlyniadau eu cyflwyniad ymchwil ar y cyd i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) y DU 2014.

Yn dilyn sefydlu Cynghrair Strategol Aber-Bangor yn 2006, mae'r prifysgolion wedi cydweithio ar nifer o brojectau ymchwil, polisïau a datblygiadau gwasanaeth mewn partneriaeth sy'n defnyddio amrywiol gryfderau ac arbenigedd ymchwil y ddwy brifysgol.   Yn dilyn buddsoddi gan HEFCW, BBSRC a'r ddwy brifysgol yn y Bartneriaeth Ymchwil a Menter (£10.9M) a'r Gynghrair Biowyddoniaeth, Amgylchedd ac Amaethyddiaeth (£50M), cyflwynodd y Gynghrair ddwy Uned Asesu ar y cyd i'w hystyried gan yr REF.   Heddiw, ddydd Iau 18 Rhagfyr, mae'r ddwy brifysgol yn dathlu llwyddiant y bartneriaeth a'r cyflwyniadau REF ar y cyd.

Gwnaed y cyflwyniadau ar y cyd mewn dwy Uned Asesu, sef Gwyddor Amaethyddiaeth, Milfeddygaeth a Bwyd a Gwyddorau Systemau Daear ac Amgylcheddol, ac roeddent yn cynnwys bron 25% o gyfanswm y staff a gyflwynwyd i'r REF o bob disgyblaeth ar draws y ddwy brifysgol.

Yn achos Gwyddor Amaethyddiaeth, Milfeddygaeth a Bwyd ystyrir bod 32% o ymchwil y Gynghrair Strategol yn awr gyda'r gorau yn y byd (4*) a bod 46% pellach yn rhagorol yn rhyngwladol (3*). Yng nghyflwyniad yr Amgylchedd, ystyriwyd bod 68% o'r ymchwil o safon ragorol yn rhyngwladol, gyda 21% o safon gyda'r orau yn y byd; mae hyn yn rhoi'r cyflwyniad yn 15ed yn GPA y DU, ac yn 14eg o ran safle grym ymchwil.

Wrth drafod y llwyddiant, meddai'r Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth:  "Rwy'n hynod falch bod ein cyflwyniad ar y cyd wedi cael canlyniad mor wych. Mae'n welliant sylweddol ar y cyflwyniad RAE blaenorol yn 2008 ac yn tystio i ragoriaeth ymchwil y ddwy brifysgol.   Rwy'n llongyfarch cydweithwyr yn Aber a Bangor ac yn edrych ymlaen at lawer blwyddyn eto o ymchwil drwy'r Gynghrair Strategol, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r byd."

Ychwanegodd Yr Athro David Shepherd, Dirprwy'r Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor:  "Mae'n bleser mawr clywed bod mwyafrif llethol yr ymchwil yn y ddwy brifysgol, ym meysydd y cyflwyniadau ar y cyd, ar lefel a ystyrir yn rhagorol yn rhyngwladol.   Gwelwyd bod ein hymchwil yn cael dylanwad mawr iawn ar yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd, yn lleol a byd-eang.  Ar draws y ddau gyflwyniad, ystyrir bod 60% o'n gwaith yn cael ei ystyried gyda'r gorau yn y byd, gyda dros 90% yn rhagorol yn rhyngwladol - rhywbeth y dylai'r ddwy brifysgol fod yn wirioneddol falch ohono."

Ystyriwyd bod effaith a dylanwad yr ymchwil yn y ddwy brifysgol yn arbennig o gryf.  Mae'r projectau'n cynnwys bridio mathau newydd o wellt pori, ceirch, reis, india-corn a miled perl; gwella bywoliaethau ffermwyr a diogelwch bwyd y boblogaeth ehangach yng Nghymru, y DU, India a Nepal; biotechnoleg i wella cynhyrchu cynhwysion bwyd a bragu; cadwraeth a rheolaeth gynaliadwy ar draws ystod eang o systemau, o bysgodfeydd môr, mawndiroedd, tiroedd pori'r ucheldir a ffyngau glaswelltir; rhagweld newid hinsawdd a'i wrthsefyll drwy ddarogan newidiadau yn y cefnforoedd yn well, cynhyrchu ynni o'r môr, cynhyrchu cnydau biomas ac olion troed carbon cynhyrchion bwyd.

 Mae'r ddau gyflwyniad yn cynnwys gwaith y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg y Gwyddorau Naturiol ym Mangor, ac mae'n waith ymchwil yr hyn sy'n cyfateb i 128.06 o aelodau staff llawn-amser ar draws y ddau sefydliad.

DIWEDD

Site footer